Our work in Wales
We’re working to end the need for food banks in Wales. Find out what we’re doing and how you can get involved.

On this page:
There are many opportunities to work together with food banks, charities, political parties and government to help realise our vision to end the need for food banks in Wales.
Appalling levels of hunger and hardship in Wales
There are 38 food banks in the Trussell community in Wales, distributing emergency food parcels at 137 food bank centres. Food banks in the Trussell community in Wales distributed close to 83,000 emergency food parcels between April to September 2024. This represents a 42% increase from the same period in 2019.
Children are disproportionally supported by food banks. Over one in three (35%) parcels provided by food banks in the Trussell community between April to September 2024 were for children aged zero to 16. This is despite this age group making up just 18% of the Welsh population. See our latest stats.
A typical week would just be bland. It’s just existing. It’s trying to basically just survive mentally, physically, emotionally and financially.
Our strategy in Wales
People need food banks when they don’t have enough income for the essentials. In Wales, we’re developing a new strategy that includes offering strategic grants to food banks to support their communities and identifying millions in income for people facing financial hardship.
The need for emergency food in Wales remains close to record levels first and foremost because of a weakened social security system that is unable to protect people from the most severe forms of hardship.
Real change is needed if we are to significantly reduce the number of people experiencing hunger and hardship in Wales. We are calling on the Welsh Government to:
- Set an ambition to end the need for food banks in Wales and introduce a plan to reduce the need for emergency food.
- Ensure resources to tackle hunger and hardship are focused on building a strong social security system and use all available devolved powers to increase incomes.
- Increase provision for cash-first support combined with quality advice for people facing financial crisis.
- Call on the UK government to ensure social security provides enough income for everyone to be able to afford the essentials. The UK government should introduce an Essentials Guarantee, and remove the two-child limit and the benefit cap.
- With Senedd elections in 2026, we want to see all political parties prioritise work to reduce hunger and hardship in Wales.
We want to see a Wales without the need for food banks, where everyone has enough money to afford the essentials. With action, we know change is possible. Until then, food banks across Wales are there to provide emergency food, a cup of tea and support to people facing hunger and hardship.
Ein gwaith yng Nghymru
Rydym ni’n gweithio i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd yng Nghymru. Darganfyddwch beth rydyn ni'n ei wneud a sut y gallwch chi gymryd rhan.
Mae yna lawer o gyfleoedd i weithio gyda banciau bwyd, elusennau, pleidiau gwleidyddol a'r llywodraeth i helpu i wireddu ein gweledigaeth i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd yng Nghymru.
Lefelau ofnadwy o newyn a chaledi yng Nghymru
Mae 38 o fanciau bwyd yng nghymuned Trussell yng Nghymru, sy'n dosbarthu parseli bwyd brys mewn 137 o ganolfannau banciau bwyd. Fe wnaeth banciau bwyd yng nghymuned Trussell yng Nghymru ddosbarthu bron i 83,000 o barseli bwyd brys rhwng Ebrill a Medi 2024. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 42% o'r un cyfnod yn 2019.
Mae plant yn cael eu cefnogi'n anghymesur gan fanciau bwyd. Roedd dros un o bob tri (35%) parsel a ddarparwyd gan fanciau bwyd yng nghymuned Trussell rhwng Ebrill a Medi 2024 ar gyfer plant 0-16 mlwydd oed. Mae hyn er mai dim ond 18% o boblogaeth Cymru yw'r grŵp oedran hwn. Gweler ein hystadegau diweddaraf
Byddai wythnos nodweddiadol yn ddiflas. Bodoli yn unig fyddwn i. Yn y bôn, mae'n golygu ceisio goroesi yn feddyliol, yn gorfforol, yn emosiynol ac yn ariannol,
Ein strategaeth yng Nghymru
Mae angen banciau bwyd ar bobl pan nad oes ganddynt ddigon o incwm ar gyfer yr hanfodion. Yng Nghymru, rydym ni’n datblygu strategaeth newydd sy'n cynnwys cynnig grantiau strategol i fanciau bwyd i gefnogi eu cymunedau a nodi miliynau o incwm i bobl sy'n wynebu caledi ariannol.
Mae'r angen am fwyd brys yng Nghymru yn parhau i fod yn agos at y lefelau uchaf erioed yn gyntaf oherwydd system nawdd cymdeithasol wan nad yw'n gallu amddiffyn pobl rhag y mathau mwyaf difrifol o galedi.
Mae angen newid gwirioneddol os ydym ni am leihau nifer y bobl sy'n profi newyn a chaledi yng Nghymru yn sylweddol. Rydym ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
- Gosod uchelgais i roi terfyn ar yr angen am fanciau bwyd yng Nghymru a chyflwyno cynllun i leihau'r angen am fwyd brys.
- Sicrhau bod adnoddau i fynd i'r afael â newyn a chaledi yn canolbwyntio ar adeiladu system nawdd cymdeithasol gref a defnyddio'r holl bwerau datganoledig sydd ar gael i gynyddu incwm.
- Cynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer cymorth arian parod yn gyntaf ynghyd â chyngor o safon i bobl sy'n wynebu argyfwng ariannol.
- Galw ar lywodraeth y DU i sicrhau bod nawdd cymdeithasol yn darparu digon o incwm i bawb allu fforddio'r hanfodion. Dylai llywodraeth y DU gyflwyno
- Gwarant Hanfodion, a dileu'r terfyn dau blentyn a'r cap budd-daliadau.
Gydag etholiadau'r Senedd yn 2026, rydym ni am weld pob plaid wleidyddol yn blaenoriaethu gwaith i leihau newyn a chaledi yng Nghymru.
Rydym ni eisiau gweld Cymru heb yr angen am fanciau bwyd, lle mae gan bawb ddigon o arian i fforddio'r hanfodion. Drwy weithredu, rydym ni'n gwybod bod newid yn bosibl. Tan hynny, mae banciau bwyd ledled Cymru yno i ddarparu bwyd brys, paned o de a chefnogaeth i bobl sy'n wynebu newyn a chaledi.